GUTO DAFIS STORïWR
  • Hafan
  • Amdano
  • Sioeau
  • Ysgolion
  • Chwedlau o Gymru
  • Lluniau
  • Fideo
  • Dyddiadau
  • Cyswllt

SIOEAU A PHERFFORMIADAU

English
PictureYn perfformio Manawydan yng Ngŵyl Aberystwyth - gyda llaw Maria Hayes uchod!
Dyma rhai o'r straeon, sioeau, rhaglenni a pherfformiadau y mae Guto wedi cyflwyno mewn gwyliau, clybiau storïa, canolfannau celf, ayb:
​
(GWELER Y TUDALEN DYDDIADAU , AR GYFER PERFFORMIADAU SYDD AR DDOD)

HANES BYWYD AC ANGAU SION CENT, A WERTHODD EI ENAID I'R DIAFOL
Chwedl chwareus o'r gororoau, a gyflwynir mewn gair, cân a cherdd - pontydd a bargeinion, cytundebau ac anghytundebau, mwynhad ac edifarhad, triciau a diawlineb
Fideo Sion Cent [S]

MANAWYDAN A'R HUD AR DDYFED
Trydedd Gainc y Mabinogi; hen chwedl am golli a ffindo, alltudiaeth a dychwelyd, a gŵr sy'n amyneddgar wrth reddf ond yn darganfod gwerth bod yn fyrbwyll 

BENDITH EU MAMAU: STRAEON RACHEL HUGHES
Plentyn Newid Llanfabon a'r Felltith ar Deulu Pantannas - chwedlau am herwgipio gan y Tylwyth Teg, fel y clywodd Craigfryn Hughes o Fynwent y Crynwyr nhw gan ei fam-gu
Fideo Pantannas [S]

MORWYN LLYN Y FAN
Gwraig a gwartheg o'r llyn - tri ergyd - cariad a cholled - rhodd o wybodaeth i'r plant sydd wedi ei adael ar ol
Fideo Llyn y Fan [S]
​​
IFAN, Y BLAIDD A'R THE ADERYN AUR
Clasur o stori hud a lledrith o Rwsia - trwy beidio dilyn cyfarwyddiadau mae symud ymlaen. 

KRAMPOUEZ / CREMPOG
Chwedl o Lydaw am grwtyn sy'n cafflo a dawnsio ei ffordd o dlodi ei gartref i balas Brenin Ffrainc gyda chymorth lliain bord, ffon cerdded, acordion a chap ...

Powered by Create your own unique website with customizable templates.